Datblygiad Cyfraith Gwlad Ac Eclead?

Submitted By SamJ971
Words: 674
Pages: 3

Datblygiad Cyfraith Gwlad ac Ecwiti
Mae rhai o nodweddion y farnwriaeth, y llysoedd a’r proffesiwn cyfreithiol yng Nghymru a Lloegr yn dyddio’n ôl bron mil o flynyddoedd. Mae’r adran hon yn bwrw golwg dros gyfraith a wnaed gan farnwyr yng Nghymru a Lloegr a’i phwysigrwydd o ran sut mae’r gyfundrefn gyfreithiol yn gweithredu heddiw.
Cyn dyfodiad y brenin Normanaidd, William I, ym 1066, roedd Lloegr yn wladwriaeth Eingl Sacsonaidd llawer llai canolog nag ydyw heddiw. Nid oedd cyfundrefn gyfreithiol unigol yn bodoli. Rhannwyd y wlad yn nifer o ardaloedd gweinyddol, pob un â’i chyfreithiau ei hun, wedi’u seilio ar arferion a rheolau lleol ac a weinyddwyd gan lysoedd lleol. Roedd barwniaid grymus yn dominyddu’r llysoedd hyn. Sefydlodd y brenhinoedd Normanaidd yr hyn a elwid yn Curia Regis (Cyngor y Brenin) i ymdrin ag achosion ochr yn ochr â’r llysoedd lleol. Parhaodd y trefniant hwn am gyfnod hir. Erbyn y 13eg ganrif, fodd bynnag, roedd tri llys brenhinol wedi datblygu: Llys y Trysorlys, a ddeliai â chasglu trethi a materion perthnasol.Llys Pledion Cyffredin a ddeliai ag achosion rhwng dinasyddion unigol, hynny yw, achosion sifil nad oeddent yn ymwneud â’r brenin yn uniongyrchol. Llys Mainc y Brenin a wrandawai ar achosion a oedd yn ymwneud â’r brenin, gan gynnwys y mwyafrif o achosion troseddol.
Roedd barnwyr y llysoedd hyn yn ceisio sicrhau eu bod yn gyson ac yn dyfarnu achosion ar sail yr hyn a benderfynwyd mewn achosion blaenorol. Yn y man, daeth y syniad o ddilyn cynseiliau yn bwysicach o lawer yn y llysoedd brenhinol nag yn llysoedd y barwniaid a dechreuwyd arfer y term ‘cyfraith gwlad’.
Un o anfanteision cyfraith gwlad oedd y gyfundrefn gwritiau. Gellid cynnal achos llys dim ond os oedd pleintydd yn gallu sicrhau bod natur yr hawl yn cyfateb i un o blith rhestr hir o gategorïau, gan olygu bod ganddo’r hawl i gyflwyno dogfen a elwid yn gwrit. Yn sgîl Darpariaethau Rhydychen ym 1258, ni châi’r llysoedd gyflwyno gwritiau o fath newydd. Yr oedd Darpariaethau Rhydychen yn codi’r broblem amlwg nad oedd modd i’r llys ymdrin â rhai achosion y byddai rhywun yn disgwyl iddo ymdrin â hwy. Hyd yn oed pe cyflwynwyd gwrit, roedd yn ddogfen gymhleth a ffurfiol iawn. Os methai hawlwyr â chydymffurfio â manylyn technegol, roedd perygl y byddent yn colli eu hachos.
Gwendid arall cyfraith gwlad oedd mai prin oedd gallu’r llysoedd i ddarparu datrysiadau (meddyginiaethau). Talu swm o arian, rhywbeth a elwir yn iawndal, oedd yr unig feddyginiaeth. Weithiau, fodd bynnag, mae gorchymyn llys i wneud rhywbeth neu i beidio â gwneud rhywbeth yn